Cwricwlwm


Cwricwlwm newydd i Gymru

Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gweill fydd yn ennyn brwdfrydedd dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd ei angen i lwyddo mewn byd sy'n newid.

 

Mae addysg yng Nghymru yn newid. 

O 2022, bydd cwricwlwm newydd. Cynlluniwyd gan athrawon. Adeiladwyd ar gyfer plant. Crewyd ar gyfer byd sydd yn newid yn gyflym. Yn rhoi ymwybyddiaeth, sgiliau a phrofiadau sydd angen er mwyn llwyddo yn y dyfodol. 

 

Cwricwlwm newydd i Gymru:
 

Ar 22 Hydref 2015, cyhoeddodd Gweinidog Addysg a Sgiliau Cwricwlwm i Gymru, cwricwlwm am oes, sef cynllun i fwrw ymlaen â'r argymhellion a bennwyd gan yr Athro Graham Donaldson yn ei adroddiad Dyfodol Llwyddiannus. 

 

Mae'r cynllun yn amlinellu sut y byddwn yn datblygu ein cwricwlwm newydd, sy'n eang, cytbwys, cynhwysfawr a heriol, gyda'n gilydd. Ac wrth wraidd y cwricwlwm y mae'r pedwar diben, sy'n rhoi'r cyfle i bob plentyn a pherson ifanc ddatblygu i fod: 

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes; 
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith;
  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd;
  • yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
     

Elfennau Allweddol:

Bydd y cwricwlwm newydd yn cynnwys:

• 6 Maes Dysgu a Phrofiad 3-16

• 3 cyfrifoldeb traws-gwricwlaidd: llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol

• camau dilyniant yn 5 oed, 8, 11, 14 ac 16

• deilliannau cyrhaeddiad sy'n disgrifio llwyddiannau disgwyliedig ar bob cam dilyniant.

 

Bydd y cwricwlwm yn cael ei drefnu yn 6 Maes Dysgu a Phrofiad:

• Celfyddydau mynegiannol

• Iechyd a lles

• Dyniaethau (gan gynnwys Addysg Grefyddol ddylai aros yn orfodol i 16 oed)

• Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu (gan gynnwys ieithoedd tramor modern yng
  Nghymru, a ddylai aros yn orfodol i 16 oed, a)

• Mathemateg a rhifedd

• Gwyddoniaeth a thechnoleg (yn cynnwys cyfrifiadureg).